Mae'r polisi hwn yn berthnasol i bob Ymddiriedolwr, aelod o staff, gwirfoddolwr, defnyddiwr a'r cyhoedd. Rhif Elusen: 1196148
Ymrwymiad
Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn greiddiol i waith Elusen Canser Syr Gareth Edwards.
Bydd Elusen Canser Syr Gareth Edwards yn trin pob person ag urddas a pharch, gan werthfawrogi amrywiaeth pawb a bydd yn hyrwyddo cyfle cyfartal ac amrywiaeth. Bydd yn cael gwared ar bob ffurf ar wahaniaethu ar sail hil, rhywedd, statws priodasol, cyfrifoldebau gofal, anabledd, ailbennu rhywedd, oedran, dosbarth cymdeithasol, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd / cred, cefndir troseddu amherthnasol neu unrhyw ffactor arall sy'n amherthnasol i'r diben o dan sylw.
Nodau
Nod Elusen Canser Syr Gareth Edwards yw:
Darparu gwasanaethau sy'n hygyrch yn ôl yr angen
Hyrwyddo cyfle cyfartal ac amrywiaeth
Peidio â gwahaniaethu'n anghyfreithlon oherwydd nodweddion gwarchodedig Deddf Cydraddoldeb 2010, sef oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw, cenedligrwydd, a tharddiad ethnig neu genedlaethol), crefydd neu gred, rhyw (rhywedd) a chyfeiriadedd rhywiol
Creu partneriaethau effeithiol â phob rhan o'n cymuned
Amcanion
Amcan Elusen Canser Syr Gareth Edwards yw gwireddu ei safonau drwy:
Gynnal ei gwasanaethau, eu gwerthuso'n rheolaidd a'u gwella'n barhaus, a hynny er mwyn sicrhau bod egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth a'r arferion gorau wedi'u gwreiddio yn ein perfformiad i fodloni anghenion unigolion a grwpiau
Cydweithredu â'r gymuned i gynnig darpariaeth gwasanaeth hygyrch a pherthnasol sy'n ymateb i anghenion defnyddwyr y gwasanaeth
Sicrhau bod y gwirfoddolwyr a'r ymddiriedolwyr yn gynrychiadol o'r gymuned sy'n cael ei gwasanaethu
Adnabod a gwerthfawrogi'r gwahaniaethau a'r cyfraniad unigol y mae pob person yn ei wneud i Elusen Canser Syr Gareth Edwards
Herio gwahaniaethu
Dyrannu adnoddau'n deg
Gweithdrefnau
Cyfrifoldeb dros Weithredu
Mae'r polisi hwn yn cwmpasu ymddygiad pob person sy'n gweithio neu'n gwirfoddoli yn Elusen Canser Syr Gareth Edwards neu sy'n defnyddio'r gwasanaethau ac mae'n nodi'r ffordd y gall pob person ddisgwyl cael ei drin yn ei dro gan Elusen Canser Syr Gareth Edwards. Yr Ymddiriedolwyr sydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau bod pawb yn cadw at y polisi a'i fod yn cael ei weithredu.
Dull Gweithredu
Mae Elusen Canser Syr Gareth Edwards yn bwriadu gweithredu'r polisi hwn drwy:
Sicrhau bod yr Ymddiriedolwyr, y staff, y gwirfoddolwyr, a'r defnyddwyr yn dod yn ymwybodol o'r polisi, eu bod nhw'n ei ddeall, yn cytuno ag ef ac yn barod i'w weithredu.
Monitro'r gwasanaethau, y cyhoeddusrwydd a'r digwyddiadau sy'n cael eu darparu gan Elusen Canser Syr Gareth Edwards er mwyn sicrhau eu bod nhw'n hygyrch i bob rhan o'r boblogaeth ac nad ydyn nhw'n gwahaniaethu.
Monitro ac Adolygu
Mae Elusen Canser Syr Gareth Edwards wedi datgan ei hymrwymiad i sefydlu, datblygu, gweithredu ac adolygu polisi cyfle cyfartal. Mae cadw cofnodion a monitro effeithiol, a gweithredu ar y wybodaeth a gasglwyd gan Elusen Canser Syr Gareth Edwards, yn hanfodol er mwyn mesur effeithiolrwydd a chynllunio cynnydd. Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu'n flynyddol.
Adolygiad Diwethaf 19.09.2022